Rhif y ddeiseb: P-06-1361 Teitl y ddeiseb: Dylid amddiffyn gweithwyr asiantaeth yn y GIG Geiriad y ddeiseb: Ar hyn o bryd, nid yw gweithwyr asiantaeth yn cael yr un mesurau diogelu a chymorth gan fyrddau iechyd â chyflogeion eraill y GIG. Fel gweithiwr cymorth gofal iechyd asiantaeth, rwyf wedi cael profiad personol o fod yn destun honiadau anwir a di-sail a barhaodd am fisoedd, ac nid oedd gennyf hawl na chyfle i herio’r rhain. Byddai wedi bod gennyf rwymedïau neu hawl mewn llys barn pe bai’r GIG wedi bod yn fy nghyflogi’n uniongyrchol. Mae’r GIG yn dibynnu ar weithwyr asiantaeth i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Dylid eu trin yn deg. Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i adolygu, yn ei swyddogaeth goruchwylio, y polisïau sy’n rheoli’r ffordd y caiff gweithwyr sy’n cael eu recriwtio drwy asiantaethau eu cyflogi a’u trin. |
Mae gweithwyr asiantaeth yn y GIG fel arfer yn cael eu cyflogi gan asiantaeth allanol sy'n gyfrifol am delerau ac amodau gwaith staff, ac am ymdrin â chwynion staff.
Mae Llawlyfr ar Delerau ac Amodau Gwaith y GIG sy’n nodi’r telerau ac amodau gwaith ar gyfer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru.
Mae gan staff asiantaethau hawliau cyflogaeth penodol a nodir yma ar wefan Llywodraeth y DU. Hefyd mae’r Cod Ymarfer hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yn nodi:
Pan fydd gweithiwr asiantaeth wedi bod yn gweithio i'r cyflogwr am gyfnod o 12 wythnos mae'n ennill yr hawl i'r un amodau gwaith a chyflogaeth sylfaenol â'r rheini sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol – ar yr amod ei fod wedi bod yn cyflawni'r un rôl am y cyfnod cyfan. Mae hyn yn cynnwys hawliau sy'n ymwneud â chyflog, hyd ei amser gweithio, seibiannau gorffwys a gwyliau blynyddol.
Yn ei hymateb i’r ddeiseb dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw gweithwyr asiantaeth na’u telerau ac amodau cyflogaeth yn fater i Lywodraeth Cymru, gan mai’r asiantaeth sy’n cyflogi staff asiantaethau, nid y GIG. Nododd mai cyfrifoldeb yr asiantaeth yw ymdrin yn deg ag unrhyw gwynion sy’n codi.
Nododd y Gweinidog fod gweithwyr asiantaeth yn gweithredu ar oriau gwaith hyblyg a’u bod fel arfer yn cael eu talu y tu allan i lefelau tâl arferol y GIG. Aeth ymlaen i ddweud, pe bai gweithwyr asiantaeth yn dymuno cael yr un buddion ag aelodau o staff cyflogedig, efallai y byddent yn dymuno ystyried gwneud cais am swydd o dan gontract yn y GIG, neu weithio drwy Fanc y GIG.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |